Cwestiynau cyffredin
Mae 'adeilad rhestredig' yn adeilad, gwrthrych neu strwythur yn y DU sydd wedi cael ei ystyried o bwysigrwydd cenedlaethol o ran diddordeb pensaernïol neu hanesyddol ac wedi'i gynnwys ar gofrestr o'r enw Rhestr Adeiladau o Ddiddordeb Pensaernïol neu Hanesyddol Arbennig.
Mae adeiladau'n cael eu rhestru i helpu i ddiogelu tystiolaeth gorfforol o'n gorffennol, gan gynnwys adeiladau, sy'n cael eu gwerthfawrogi a'u diogelu fel rhan ganolog o'n treftadaeth ddiwylliannol a'n hymdeimlad o hunaniaeth. Mae adeiladau hanesyddol hefyd yn cyfrannu at ansawdd ein bywydau, gan fod yn agwedd bwysig ar gymeriad ac ymddangosiad ein trefi, ein pentrefi a'n cefn gwlad.
Mae tri gradd o restru:
- Gradd I - Adeiladau o ddiddordeb eithriadol
- Gradd II* - Adeiladau o bwysigrwydd arbennig a mwy na diddordeb arbennig
- Gradd II - Adeiladau o ddiddordeb arbennig, sy'n haeddu pob ymdrech i'w cadw (dyma'r radd fwyaf cyffredin).
Os ydych yn byw mewn adeilad rhestredig, mae hynny'n golygu na allwch ddymchwel na newid yr adeilad mewn ffordd sy'n newid ei gymeriad heb Ganiatâd Adeilad Rhestredig.
Dysgwch fwy am Ganiatâd Adeilad Rhestredig ar Borth Cynllunio Cymru. (Yn Seasneg)
Gall dymchwel adeilad olygu bod angen caniatâd cynllunio neu gymeradwyaeth ymlaen llaw, yn dibynnu ar ffactorau megis math, maint a lleoliad yr adeilad.
Cyn dechrau unrhyw waith dymchwel, mae'n bwysig ymgynghori â'ch awdurdod cynllunio lleol i gadarnhau pa ganiatâd sydd ei angen. Mae hyn yn helpu i osgoi'r risg o gamau gorfodi neu ganlyniadau cyfreithiol.
Os ydych yn byw mewn adeilad rhestredig neu ardal gadwraeth, bydd angen caniatâd ychwanegol arnoch.
Bydd angen i chi hefyd sicrhau eich bod yn cydymffurfio â'r rheoliadau adeiladu sy'n ymwneud â dymchwel adeilad.
Yn ôl y gyfraith, mae unrhyw ganiatâd cynllunio a roddir yn dod i ben ar ôl cyfnod penodol. Yn gyffredinol, oni nodir yn wahanol yn eich caniatâd, yng Nghymru mae gennych bum mlynedd o'r dyddiad y'i rhoddir i ddechrau ar y datblygiad. Os na fyddwch wedi dechrau'r gwaith erbyn hynny, mae'n debygol y bydd angen i chi wneud cais eto.
Os ydych chi eisiau cadarnhad ffurfiol bod defnydd presennol o adeilad yn gyfreithlon at ddibenion cynllunio, neu nad oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer eich datblygiad arfaethedig, gallwch wneud cais am Dystysgrif Datblygiad Cyfreithlon (LDC).
Gall LDC fod yn ddefnyddiol mewn sefyllfaoedd lle mae angen sicrwydd arnoch bod defnydd, gweithrediad neu ddatblygiad penodol yn gyfreithlon o dan ddeddfwriaeth cynllunio.
Darllenwch am Dystysgrifau Datblygiad Cyfreithlon ar Borth Cynllunio Cymru. (yn Seasneg)
Gellir cyflwyno ceisiadau am Dystysgrif Datblygiad Cyfreithlon ar-lein i'ch awdurdod cynllunio lleol gan ddefnyddio Porth Cynllunio Cymru. Rhaid i chi gynnwys digon o fanylion a thystiolaeth i gefnogi eich achos; os yw'r wybodaeth yn annigonol, gall eich cais gael ei wrthod.
Mae ffioedd cynllunio gwahanol ar gyfer Lloegr a Chymru, a llawer o wahanol fathau o geisiadau yn dibynnu ar y gwaith sy'n cael ei wneud.
Gallwch ddefnyddio cyfrifiannell ffioedd Porth Cynllunio Cymru i gyfrifo ffioedd ar gyfer gwahanol fathau o gynigion.
Ewch i gyfrifiannell ffioedd Porth Cynllunio Cymru
Er bod pob ymdrech wedi'i gwneud i sicrhau bod y ffi wedi'i chyfrifo'n gywir, cyfrifoldeb yr awdurdod cynllunio lleol perthnasol yw penderfynu a yw ffi gynllunio yn gywir, a byddant yn gwirio bod y ffi yn gywir pan gyflwynir a dilysir y cais.
Gallwch, ond bydd y math hwn o drosi yn gofyn am ganiatâd cynllunio llawn. Y rheswm am hyn yw eich bod yn newid defnydd y llawr gwaelod o breswyl i fasnachol (fel arfer i ddosbarth defnydd fel E), tra byddai'r llawr uchaf yn parhau fel fflat preswyl (Dosbarth C3). Mae'r newid defnydd yn golygu bod angen cymeradwyaeth cynllunio.
Ni fydd angen i chi wneud cais am ganiatâd cynllunio os ydych yn dymuno codi ffens, wal neu giât newydd; neu addasu, cynnal, gwella neu ddymchwel un sydd eisoes yn bodoli, os bodlonir amodau penodol. Os na chaiff unrhyw un o'r amodau eu bodloni, yna bydd angen i chi wneud cais am ganiatâd cynllunio.
Nid oes angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu ar gyfer ffensys, waliau a gatiau. Er nad yw'r rheoliadau adeiladu yn berthnasol, rhaid i'r strwythurau fod yn gadarn ac yn cael eu cynnal a'u cadw. Os ydych yn rhannu wal â chymydog, gall gael ei ystyried yn wal ffens barti.
Nid oes angen caniatâd cynllunio arnoch os yw dreif newydd neu un sy'n cael ei disodli yn defnyddio arwyneb athraidd (neu borws) sy'n caniatáu i ddŵr ddraenio drwyddo, neu os yw'r dŵr glaw yn cael ei gyfeirio at lawnt neu ymyl er mwyn draenio'n naturiol.
Os yw'r arwyneb sydd i'w orchuddio yn fwy na phum metr sgwâr, bydd angen caniatâd cynllunio ar gyfer gosod dreifiau traddodiadol, anhydraidd nad ydynt yn darparu ar gyfer i'r dŵr redeg i ardal athraidd.
Mae'r canllawiau hyn yn berthnasol i dai; mae rheolau gwahanol ar gyfer fflatiau a maisonettes, tai wedi'u trosi, tai newydd neu ardaloedd lle gall hawliau datblygu a ganiateir fod wedi'u cyfyngu.
Efallai y bydd angen i chi ystyried a oes angen ymyl ffordd wedi'i ostwng. I raddau helaeth, nid mater cynllunio yw ymylon ffordd wedi'u gostwng, ond bydd angen i chi wneud cais i'ch cyngor lleol.
Mae'r Porth Cynllunio yn galluogi defnyddwyr cofrestredig i greu a chyflwyno ceisiadau ar-lein yng Nghymru.
Gallwch gofrestru gyda'r Porth Cynllunio drwy ddefnyddio ein gwasanaeth ar gyfer Cymru drwy ymweld â https://cymraeg.planningportal.wales/app.
Darperir y gwasanaeth ar-lein fel y gellir, yn y rhan fwyaf o achosion, gwblhau a chyflwyno pob rhan o gais yn electronig – gan gynnwys taliad, y gellir ei wneud drwy amrywiol ddulliau.
Darllenwch am sut i ddefnyddio Porth Cynllunio Cymru i wneud cais am ganiatâd cynllunio
Efallai yr hoffech wneud addasiadau i'r atig er mwyn gwella'r cyfleusterau storio sydd ar gael neu i gynyddu gofod byw y cartref. Ystyrir bod trosi atig tŷ yn ddatblygiad a ganiateir (nad oes angen gwneud cais am ganiatâd cynllunio ar ei gyfer) yn amodol ar derfynau ac amodau penodol.
Pori drwy ein Mini-Ganllaw Trosi Atig am wybodaeth.
Darllenwch am y terfynau a'r amodau ar gyfer trosi atig ar wefan Llywodraeth Cymru.
Cofiwch, mae angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu i drosi atig neu lofft yn ofod byw.
Mae rheolau gwahanol ar gyfer fflatiau a maisonettes o ran trosi atigau.
Mae amnewid y ffenestr o fewn ffenestr fae yn cael ei drin yr un fath ag unrhyw ffenestr arall. Mae hyn yn golygu na fyddai angen cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer amnewid ffenestri sydd ag ymddangosiad tebyg i'r rhai a ddefnyddiwyd o'r blaen.
Ni fydd angen cais chwaith ar gyfer gwaith atgyweirio, cynnal a chadw a gwelliannau bach. Os ydych yn byw mewn adeilad rhestredig neu mewn ardal ddynodedig, gall rheolau gwahanol fod yn berthnasol.
Fel arfer, gallwch godi ffensys, gatiau neu waliau gardd newydd heb wneud cais am ganiatâd cynllunio, cyn belled â'ch bod yn cadw o fewn y terfynau uchder a ganiateir. Os yw'r strwythur yn gyfagos i briffordd (gan gynnwys llwybrau troed sy'n rhan o briffyrdd), rhaid iddo beidio â bod yn uwch nag un metr. Ar gyfer pob ffin arall, yr uchder mwyaf a ganiateir yw dau fetr. Bydd angen caniatâd cynllunio ar gyfer unrhyw beth sy'n uwch na'r terfynau hyn.
Os yw'r ffens o fewn cwrtil adeilad rhestredig, bydd angen i chi wneud cais am ganiatâd cynllunio.
Gall ffenestri a drysau aneffeithlon gyfrannu'n sylweddol at golli gwres. Gall disodli ffenestri gwydr sengl drwy osod gwydr dwbl leihau colled gwres trwy ffenestri yn sylweddol.
Mae gwydr dwbl yn gweithio drwy ddal aer rhwng dau banel o wydr, gan greu rhwystr inswleiddio sy'n lleihau colled gwres, sŵn a chyddwysiad. Os na allwch ddisodli'r holl ffenestri, beth am ddewis ystafelloedd sy'n costio fwyaf i'w gwresogi? Mae opsiynau eraill i leihau colled gwres trwy ffenestri yn cynnwys selio bylchau neu ddefnyddio bleindiau thermol.
Fel arfer, nid oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer atgyweiriadau, gwaith cynnal a chadw a gwelliannau bach neu ddisodli ffenestri a drysau sydd ag ymddangosiad tebyg. Mae rheoliadau adeiladu yn berthnasol i wydr newydd, o ran perfformiad thermol, cyflenwad aer, awyru, diogelwch a dulliau dianc.
Gall ychwanegu aerdymheru at eich cartref gael ei ystyried yn ddatblygiad a ganiateir, ar yr amod bod yr holl derfynau ac amodau a nodir yn y ddeddfwriaeth yn cael eu bodloni. Mae'r terfynau yn nodi swyddogaeth, maint, lleoliad a nifer yr unedau aerdymheru a ganiateir.
Dim ond os yw'r system yn darparu swyddogaeth wresogi (gan gynnwys os gall ddarparu gwresogi ac oeri) y mae'r hawliau hyn yn berthnasol. Os mai dim ond swyddogaeth oeri y mae'r system yn ei chynnig, yna nid yw'r hawliau hyn yn berthnasol a bydd angen gwneud cais am ganiatâd cynllunio.
Rhaid i osod aerdymheru gydymffurfio â rheoliadau adeiladu. Mae'n ddoeth cysylltu â gosodwr a all ddarparu'r cyngor angenrheidiol, yn ddelfrydol un sy'n perthyn i'r Cynllun Ardystio Microgynhyrchu (Microgeneration Certification Scheme).
Mae newid defnydd o dŷ (dosbarth defnydd C3) i osodiad tymor byr (dosbarth defnydd C6) yn cael ei ganiatáu trwy hawliau datblygu a ganiateir, sy'n golygu na fydd fel arfer angen cais am ganiatâd cynllunio.
Bydd angen cais lle mae hawliau datblygu a ganiateir wedi'u tynnu'n ôl gan gyfarwyddyd Erthygl 4.
Os ydych yn newid o ddosbarth defnydd gwahanol, bydd angen cais am ganiatâd cynllunio arnoch yn aml i greu gosodiad tymor byr.
Mae gosod dysgl loeren neu antena yn cael ei ddosbarthu fel datblygiad a ganiateir, sy'n golygu nad oes angen gwneud cais am ganiatâd cynllunio cyn belled â bod terfynau ac amodau penodol yn cael eu bodloni.
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu canllaw manwl ar pryd mae angen caniatâd cynllunio i osod dysgl loeren.
Darllenwch am ddysglau lloeren ar wefan Llywodraeth Cymru.
Os yw'r adeilad wedi'i restru neu o fewn cwrtil adeilad rhestredig, efallai y bydd angen caniatâd ychwanegol.
Mewn llawer o amgylchiadau, mae rheolau a elwir yn hawliau datblygu a ganiateir yn caniatáu ichi ymestyn tŷ heb fod angen gwneud cais am ganiatâd cynllunio, ar yr amod bod cyfyngiadau ac amodau penodol yn cael eu bodloni.
Os ydych am fynd y tu hwnt i'r terfynau ac amodau hyn, yna mae'n debygol y bydd angen gwneud cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer deiliaid tai.
Mae'r terfynau a'r amodau ar gyfer adeiladu estyniad o dan reolau datblygu a ganiateir wedi'u cynnwys yn ein Mini-ganllaw ac ar wefan Llywodraeth Cymru.
Dewch o hyd i ragor o wybodaeth yn y Mini-ganllaw ar Estyniadau Unllawr.
Mae'r rheolau sy'n llywodraethu adeiladau allanol yn berthnasol i siediau, tai chwarae, tai gwydr a garejys, yn ogystal ag adeiladau gardd atodol eraill megis pyllau nofio, pyllau dŵr, cabanau sawna, cenneli, llociau (gan gynnwys cyrtiau tenis) a llawer o fathau eraill o strwythurau at ddiben sy'n gysylltiedig â mwynhad y tŷ annedd.
Ystyrir bod adeiladau allanol yn ddatblygiad a ganiateir, heb fod angen cais am ganiatâd cynllunio, yn amodol ar derfynau ac amodau penodol.
Darllenwch am adeiladau allanol ar wefan Llywodraeth Cymru.
Os nad ydych yn siŵr a yw'r adeilad rydych yn ei gynllunio yn dod o dan y categori 'adeiladau allanol', neu os nad ydych yn siŵr a oes angen caniatâd cynllunio, cysylltwch â'ch awdurdod cynllunio lleol.
Bydd angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu arnoch ar gyfer pob gwaith trydanol oni bai ei fod yn waith amnewid neu gynnal a chadw ar systemau trydanol presennol neu addasiadau eraill i gylchedau presennol (ac eithrio mewn cegin, ystafell ymolchi neu yn yr awyr agored).
Gellir cael cymeradwyaeth drwy ddefnyddio person cymwys cofrestredig sy'n gallu hunan-ardystio bod y gwaith yn bodloni'r safonau gofynnol, neu drwy wneud cais am gymeradwyaeth i gorff rheoli adeiladu.
Dylech gysylltu â'ch awdurdod cynllunio lleol cyn dechrau gwaith os yw'n adeilad rhestredig.
Darllenwch am y rheoliadau adeiladu ar gyfer systemau trydanol ar wefan Llywodraeth Cymru.
Mae Dogfennau Cymeradwy yn ganllawiau swyddogol sy'n egluro sut i gydymffurfio â'r rheoliadau adeiladu.
Wedi'u cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru, mae pob dogfen yn darparu arweiniad ymarferol ar sut i fodloni gofynion 'Rhan' benodol o'r rheoliadau. Maent yn ymdrin ag ystod eang o waith adeiladu, gan gynnwys plymio, gosodiadau trydanol, estyniadau ac awyru.
Mae fersiynau diweddaraf y Dogfennau Cymeradwy ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
Gelwir categoreiddio tir ac adeiladau yn ôl eu math a'u pwrpas yn Ddosbarthiadau Defnydd.
Gall 'Newid defnydd' fod o fewn yr un Dosbarth Defnydd neu o un Dosbarth Defnydd i un arall. Bydd angen caniatâd cynllunio arnoch ar gyfer rhai newidiadau i ddefnydd eiddo, megis newid o ddefnydd preswyl i ddefnydd busnes. Fodd bynnag, mae'n bosibl newid defnydd rhwng rhai dosbarthiadau heb orfod gwneud cais am ganiatâd cynllunio.
Yn dibynnu ar fanylion unrhyw newid defnydd arfaethedig, gan gynnwys unrhyw waith adeiladu sy'n gysylltiedig â'r cynnig, efallai y bydd angen cais am ganiatâd cynllunio.
