Eisiau dysgu popeth am Webflow? Lawrlwythwch ein llyfr electronig am ddim heddiw.
Ni fydd angen i chi wneud cais am ganiatâd cynllunio os ydych yn dymuno codi ffens, wal neu giât newydd; neu addasu, cynnal, gwella neu ddymchwel un sydd eisoes yn bodoli, os bodlonir amodau penodol. Os na chaiff unrhyw un o'r amodau eu bodloni, yna bydd angen i chi wneud cais am ganiatâd cynllunio.
Nid oes angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu ar gyfer ffensys, waliau a gatiau. Er nad yw'r rheoliadau adeiladu yn berthnasol, rhaid i'r strwythurau fod yn gadarn ac yn cael eu cynnal a'u cadw. Os ydych yn rhannu wal â chymydog, gall gael ei ystyried yn wal ffens barti.
Mae Dogfennau Cymeradwy yn ganllawiau swyddogol sy'n egluro sut i gydymffurfio â'r rheoliadau adeiladu.
Wedi'u cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru, mae pob dogfen yn darparu arweiniad ymarferol ar sut i fodloni gofynion 'Rhan' benodol o'r rheoliadau. Maent yn ymdrin ag ystod eang o waith adeiladu, gan gynnwys plymio, gosodiadau trydanol, estyniadau ac awyru.
Mae fersiynau diweddaraf y Dogfennau Cymeradwy ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
Mae'r rheolau sy'n llywodraethu adeiladau allanol yn berthnasol i siediau, tai chwarae, tai gwydr a garejys, yn ogystal ag adeiladau gardd atodol eraill megis pyllau nofio, pyllau dŵr, cabanau sawna, cenneli, llociau (gan gynnwys cyrtiau tenis) a llawer o fathau eraill o strwythurau at ddiben sy'n gysylltiedig â mwynhad y tŷ annedd.
Ystyrir bod adeiladau allanol yn ddatblygiad a ganiateir, heb fod angen cais am ganiatâd cynllunio, yn amodol ar derfynau ac amodau penodol.
Darllenwch am adeiladau allanol ar wefan Llywodraeth Cymru.
Os nad ydych yn siŵr a yw'r adeilad rydych yn ei gynllunio yn dod o dan y categori 'adeiladau allanol', neu os nad ydych yn siŵr a oes angen caniatâd cynllunio, cysylltwch â'ch awdurdod cynllunio lleol.
Fel arfer, gallwch godi ffensys, gatiau neu waliau gardd newydd heb wneud cais am ganiatâd cynllunio, cyn belled â'ch bod yn cadw o fewn y terfynau uchder a ganiateir. Os yw'r strwythur yn gyfagos i briffordd (gan gynnwys llwybrau troed sy'n rhan o briffyrdd), rhaid iddo beidio â bod yn uwch nag un metr. Ar gyfer pob ffin arall, yr uchder mwyaf a ganiateir yw dau fetr. Bydd angen caniatâd cynllunio ar gyfer unrhyw beth sy'n uwch na'r terfynau hyn.
Os yw'r ffens o fewn cwrtil adeilad rhestredig, bydd angen i chi wneud cais am ganiatâd cynllunio.
Mae amnewid y ffenestr o fewn ffenestr fae yn cael ei drin yr un fath ag unrhyw ffenestr arall. Mae hyn yn golygu na fyddai angen cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer amnewid ffenestri sydd ag ymddangosiad tebyg i'r rhai a ddefnyddiwyd o'r blaen.
Ni fydd angen cais chwaith ar gyfer gwaith atgyweirio, cynnal a chadw a gwelliannau bach. Os ydych yn byw mewn adeilad rhestredig neu mewn ardal ddynodedig, gall rheolau gwahanol fod yn berthnasol.
Gelwir categoreiddio tir ac adeiladau yn ôl eu math a'u pwrpas yn Ddosbarthiadau Defnydd.
Gall 'Newid defnydd' fod o fewn yr un Dosbarth Defnydd neu o un Dosbarth Defnydd i un arall. Bydd angen caniatâd cynllunio arnoch ar gyfer rhai newidiadau i ddefnydd eiddo, megis newid o ddefnydd preswyl i ddefnydd busnes. Fodd bynnag, mae'n bosibl newid defnydd rhwng rhai dosbarthiadau heb orfod gwneud cais am ganiatâd cynllunio.
Yn dibynnu ar fanylion unrhyw newid defnydd arfaethedig, gan gynnwys unrhyw waith adeiladu sy'n gysylltiedig â'r cynnig, efallai y bydd angen cais am ganiatâd cynllunio.